Hanes Academyddion Cymreig : Yr Accies a Fy Nghymraeg
W.H. Billy Raybould
Yn Cathays High School yng Nghaerdydd y dysgodd W.H. - Billy Raybould chwarae rygbi. Yno hefyd a dysgodd Gymraeg. Ar ol enill ei Blue ung Nghaergrawnt ym 1966, fe gafodd unarddeg o gapiau dros Gymru yn chwarae yn y canol. Wedi cyfnod fel athro, fe'i penodwyd yn arolygwr ysgolion. Wedi bwrw golwg dros ei gyfraniad i'r cyhoeddiad hwn, fe ddywedodd Dai Owen "Sylwch, mae'n galw ei hunan yn "academydd". Wel, gan ei fod wedi cael gradd dosbarth cynta yn y Gymraeg yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd, ac yna gradd 2(1) mewn astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Caergrawnt, mae'n debyg bod ganddo'r hawl i'r teitl hwnnw".
Pan oeddwn i'n chwarae i'r Accies yng nghanol y chwedegau yr oedd y gem yn gem amatur. Wir i chi, amatur go iawn! Yr oeddwn yn chwarae am y pleser ac yn disgwyl talu am y fraint.
Ond yr oedd pawb yn gystadleuol ac 'roedd pawb yn chwarae'n dda. Yr oedd chwarae'n dda yn golygu y caech chwarae gyda'r goreuon, yn nhim Cymru, yn nhim y Llewod, neu hyd yn oed yn timau gwadd fel yr Accies, y Crawshays, yr Wolfhounds a'r Barbariaid. Cefais y fraint o chwarae gyda nhw i gyd, ac ni chefais fwy of foddhad na pan oeddwn yn chwarae i'r Accies. Yr oedd pob gem yn frwydr galed on yr oedd chwarae i'r Accies yn ollyngdod pleserus bob amser. Mor braf oedd chwarae gemau i godi arian i achosin da; yn y rheiny, gyda'r Accies yn enwedig, yr oeddem yn gallu ymlacio a mwynhau'r chwarae yng nghwmni dawnus a dealluseraill, yn hytrach na gorfod cystadlu yn erbyd chwaraewyr dwrn a baw, a hynnu er mwyn enill sylw'r dewiswyr, neu hyd yn oed sylw'r "pump mawr" - dewiswyr tim Cymru
Diolch i'r Academywyr am roi i mi rai o'm profiadau mwyaf gwefreiddiol a mwyaf cofiadwy fel cwaraewr. Diolch i'r Accies, gallaf ddweud fy mod wedi chwarae, unwaith, gyda Cliff Morgan. Roedd hynnu yn Ebrill 1967. Yr oedd yr Accies wedi rhoi tim at ei gilydd i chwarae yn erbyn tim gwadd a chwaraewyr rhyngwladol ar gae'r Wern, Merthyr, er bydd teuluoedd y plant a'r athrawon fu farw yn nhrychineb Aberfan ym mis Hydref 1966. Yr oedd Cliff, wrth gwrs, yn faswr a minnau yn y canol - gyda Gerald am unwaith, ac nid yn ei erbyn. Ac yr oedd Dai Watkins ar eu hochr nhw. 'Does ryfedd i ni sgorio 46 o bwyntiau yn erbyn 35! Yr oedd Cliff yn agos at ddeugain oed ac wedi ymddeol ers blynyddoedd. Prin y cofiau ei weld yn chwarae, heb son am chwarae gydag e',
Yn ystod fy ngyrfa - ac fe chwaraeais i Benybont, Gasnewydd, y Cymru yn Llyndain a Thredegar - 'roedden ni i gyd yn chwarae, fel y dewydais, i blesio ni'n hunain, nid i blesio'r dewiswyr. Ar y pryd hefyd, wrth gwrs, yr oedd pob yn o swyddogion y clybiau'n amaturiaid. Bu hynnu, yn fy marn i, dry gydol chwarter olaf ddiwetha, yn faen trangwydd i ddatblygiad y gem yng Nghymru, ar lefel y clybiau, ac yn sgil hynnu, ar level y tim rhyngwladol. Ond ni fu'n dramgwydd o fath yn y byd i ddatblygiad y timau gwadd. Y mae gwaith ysgrifennydd y tim, mewn unrhyw glwb, yn allweddol i lwyddiant y tim, ond nid i'r un graddau ag i lwyddiant y timau gwadd.
Please wait as the server processes your request. Do not attempt to refresh the page.