Our History

Hanes Academyddion Cymreig : Gem Arbennig Yr Accies

Carwyn James

Ar Hydref y 9fed 1972, fel rhan o dathliadau canmlwyddiant Coleg y Brifysgol, Aberystwyth, fe chwaraeodd yr Acamedyddion Cymreig yn erby tim o fyrfyrwyr y coleg - o'r gorffenol a'r presennol. Dyma'r hyn oedd gan y prifathro ar y pryd - Goronmy Daniel - i'w ddweud yn y rhaglen.

Mae'r Coleg yn dra diolchgar i Undeb Rugbi Cymru am ganiatad i chwarae'r gem, ac i'r Acamedyddion Cymreig am drefnu tim i chwarae yn erbyn tim yn cynrychioli'r Coleg. Da iawn gennym fod Mr Carwyn James, cyn-fyfyriwr o'r Coleg ac awdurdod digymar ar y gem Rygbi, wedi cyfrannu erthygl i'r rhaglen.

Petai Carwyn gyda ni o hyd, byddai'r cyhoeddiad hwn yn ddiamau yn cynnwys cyfraniad ganddo fe. Ond dwy'n credu y byddai'n falch bod ei gyfraniad i'r rhaglen ar yr achlysur pwysig hwnnw yn Aber, pumtheg mlynedd ar hugain yn ol yn ei goffau yma.

Yn y Tymbl y gwelais i Aber yn whare gynta oll. Gem gofiadwy. Tim Y Tymbl wedi ei lwytho a choliers cryf, caled a'r tymor hwnnw, 1947-1948, yn hynod lwyddianus yn Undeb y Gorllewin. Yn grwtyn chweched dosbarth fe ges i sioc o weld y stiwdents o Aber yn whare cystal, guts y blaenwyr yn rhyfeddol, a'm gwefreiddio gan ddigleirdeb Alan Stonear ar yr asgell a llithrigrwydd John (Alfie) Brace, y maswr. Pan gyrhaeddais i Aber yn Hydref'48, wedi whare eisioes dros Ysgolion Uwchradd Cymru a thros Llanelli, yr ail dim amdani ac ambell i gem dros y dre. Cyfnod hapus dros ben, cynod pan oedd mwyafrif y myfyrwyr wedi cael profiad o ryfel a ninnau'r glaslanciau dibrofiad o'r ysgol yn cael ein trafod fel y lleill yn fodau cyfrifol, aeddfed. Roedd teithio i gem ganol wythnos yn Llandybie, Pontyberem, neu Abertawe yn golygu dydd Mercher di-darlith a chyraedd nol yn oriau man a darlith naw o'r gloch Parry bach - yr anwylaf o Athrawon ar Ramadeg Hanesyddol - er gwyched honno bob amser, yn un anodd i'w chyrraedd mewn pryd.

Ond daeth tro ar y fyd. Fe adawodd Alabam, Alfie, Coch Jones, Peter Stone, y blaenasgell mwyn a whariodd dros Gymru - coffa da amdano - a llu o ffrindiau eraill. Erbyn dechrau pum degau 'roedd yr olaf o'r genhedlaeth freintiedig wedi mynd, a ninnau'r glaslanciau, profiadol erbyn hyn, a fu'n byw'n fras tan eu cysgod yn gorfod wynebu goruchwyliaeth newydd. Rhaid oedd dychwelyd i Aber o Llandybie a Phontyberem ac Abertawe erbyn haner nos. Y nefoedd fawr! Rhywfodd, heb na streic na sit in na dim o'r fath, fe ddowd drwyddi heb golli gras na hawl.

Dyddiau hapus. Petawn i'n gorfod wynebu UCCA bore foru fe wnawn i eto yr hyn a wnes i yn 1948. Y dewis cynta, Aber. Dim ail ddewis, na thrydydd, na phedwarydd, na...Nid sentiment mo hyn. Fe wnes i fwynhau pob munud o'm pedair blynedd ac fe hoffwn i eu hil-fyw.

Y Rygbi. Dim hyfforddi, fawr ddim o ymarfer, mae'n ddrwg gen i ddweud. Ond roedd na ysbryd yn y tim a llawer o ddawn. Bois fel Alan Stephens (Casnewydd), Roy Williams (Llanelli a Wigan), Dai Price (Abertawe), JohnJones (Caerfyrddin) i enwi ond dyrnaid. Llawer o gymdeithasu - yn y ffreutur yn ystod y dydd a'r Ship ar nos Sadwrn - a chyd dynnu ar y maes. A mwynhau bywyd Coleg yn ei holl agweddau. Un enghraifft fach. Mynd lan i Fangor i Eisteddfod y Colegau, a gadael Bangor yn oriau man bore Sadwrn. Cyrraedd Aber am wyth o'r gloch y bore, brecwast, gwelu a chodi i ginio haner dydd.

Ymgodymu a Chaerdydd yn ffeinal yr Inter Col a rhoi eitha grasfa iddyn nhw. Dyna'r dyddiad pan fydde'r Cymru'n tyrru i'r Geltaidd ar nos Lun ac i'r Ddadl ar nos Wener yn neuadd yr Arholiadau, awr cyn pryd er mwyn cael lle.

Braf eich byd a'ch etifeddiaeth. Mwynhewch y ganfed a dangoswch Aber ar ei orau. Dyna ddymuniad un hen stiwdent, ta beth.